Menterra
 
Mentrau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Engreifftiau o Fentrau posib:
  • Madarch Ecsotig
  • Cnydau Diwydiannol
  • Cnydau Ffeibr
  • Perlysiau Anghyffredin
  • Cnydau Meddyginiaethol

Treial Madarch

Yn ystod y misoedd diwethaf mae prosiect MENTERRA wedi trefnu dau gyfarfod, y cyntaf yng Nghanolfan Arloesi-Amaeth, Henfaes, Abergwyngregyn ar Hydref 11eg, 2005 a’r ail yn yr  Oakley Arms, Maentwrog ar  y 3ydd o fis Tachwedd 2005. Roedd y cyfarfodydd hyn yn gam cyntaf tuag at ddewis dau ffermwr i ymgymryd â phrofion tyfu madarch yng Ngwynedd.

Gwahoddwyd ffermwyr oedd wedi dangos diddordeb yn y prosiect gan MENTERRA i fynychu’r cyfarfodydd hyn. Cafodd y cyfarfodydd hyn hefyd eu mynychu gan Mr. Richard Edwards a Mr. Mark Wassell o Humungus Fungus; cwmni a sefydlwyd yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin gyda’r bwriad o ddatblygu systemau proffidiol ar gyfer tyfu madarch organig ar sail datblygiad cynaliadwy gydag ychydig o effaith. Bu’r cwmni a thyfwyr cysylltiedig yn gyfrifol am system arloesol ac unigryw ar gyfer tyfu madarch sy’n defnyddio hen gynhwysyddion llongau . O ganlyniad, mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i osod cyfleusterau tyfu mewn mannau lle mae’n anodd cael madarch ffres sydd wedi’u tyfu’n lleol.

Yn dilyn dau gyfarfod llwyddiannus iawn, mae MENTERRA wedi trefnu ymweliad â   Humungus Fungus. Mae’r daith wedi ei threfnu fel bod pawb sydd angen mwy o fanylion ynglŷn â thyfu’r madarch egsotig hyn yn cael gweld eu hunain yn union sut mae’r broses yn gweithio o’r blociau ffrwytho hyd nes eu cynhaeafu ynghyd  â’r lefel o ymrwymiad sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud y math yma o brofion yn llwyddiannus.

Hazel Jones
Cymad

Ffrwythau Meddal

Byth ers i’r syniad o dyfu aeron yng Ngwynedd gael ei grybwyll yn nyddiau cyntaf MENTERRA, bu CYMAD yn brysur yn delio â nifer o ymholiadau gan ffermwyr yn awyddus i ddysgu rhagor am y cyfle cyffrous yma. Mae’n debyg nad oeddynt wedi ystyried y posibilrwydd o’r blaen, ond drwy bori drwy lyfrau a’r we, buan mae rhywun yn sylweddoli y cyfleon masnachol.

Llus (blueberries), aeron tagu (chokeberries/aronia) a helygen y môr (sea buckthorn) yw’r tri chnwd aeron fydd MENTERRA yn eu cyflwyno yn 2005 ar rai o ffermydd y Sir. Bydd y prosiect yn darparu cymorth technegol ac ariannol i nifer gyfyngedig o ffermwyr i dyfu'r planhigion dan oruchwyliaeth CYMAD a Phrifysgol Cymru Bangor.

Helygen y môr
Bydd y rhai mwyaf llygadog yn eich plith wedi sylwi ar helygen y môr yn tyfu ar hyd yr A55 yn Nwyrain Gwynedd. Daw’r enw o’i dueddiad i ffynnu ger yr arfordir. Gall dyfu hyd at 2-4m o uchder. Planhigyn collddail sy’n tyfu ar ffurf llwyn yw’r helygen, sy’n cynhyrchu aeron siâp wy lliw melyn neu oren hyd at 1cm o hyd. Defnyddir yr aeron hyd heddiw mewn rhai rhannau o Ddwyrain Ewrop fel bwyd, sudd a chynnyrch iachaol.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd y Brifysgol a CYMAD yn bwrw ati i adnabod safleoedd addas ar gyfer tyfu'r planhigyn. Ni ystyrir tir ger ecosystemau twyni tywod, oherwydd pryderon y gallai’r helygen oresgyn pob llystyfiant arall mewn safleoedd o’r fath. I gynhyrchu cnwd da o aeron helygen y môr, bydd angen safle gyda draeniad da a phridd maethlon gyda pH6-7. Bydd angen i dyfwyr fagu sgiliau newydd ar gyfer tocio a chynaeafu’r aeron. Oherwydd tueddiad y planhigyn i gynhyrchu aeron yn dynn a chlos i’w changhennau, mae cynaeafu mecanyddol yn gallu bod yn broblem.

Mae BIC Innovation Ltd ar hyn o bryd yn archwilio i gyfleoedd marchnata ar gyfer y cnwd. Cydnabyddir yr aeron fel un o’r rhai mwyaf maethlon a gynhyrchir, gyda lefelau o hyd at 600mg o fitamin C ar gyfer pob 100g o ffrwyth. Mae rhai o’r cynnyrch posib felly’n cynnwys amrediad o fwydydd swyddogaethol, cynnyrch iachaol a deunydd fferyllol. Bydd yn hanfodol prosesu ac ychwanegu gwerth i’r hyn a gynaeafir yn lleol, i sicrhau manteision economaidd llawn i’r ardal.

Cofiwch ddarllen y rhifyn nesaf pan fyddwn yn cyflwyno gwybodaeth am lus ac aeron tagu.

Salicornia - y dewis llysieuol

Gwelwyd cychwyn prosiect y Salicornia yn y gwanwyn; mae’n fenter arloesol i ymchwilio i ddull cynhyrchu er mwyn  tyfu’r Salicornia yng Nghymru fel llysieuyn môr a chnwd had olew.

Planhigyn suddlon, unflwydd heb ddail yw’r Salicornia sy’n tyfu’n naturiol mewn aberoedd arfordirol ac amgylcheddau halenog ar draws y byd ac mae’n olygfa gyffredin ar forfeydd heli ar hyd arfordir gogledd Cymru. Daw’r enw  Salicornia o’r geiriau Groegaidd sâl -“halen” a cornus- “corn”, oherwydd  natur y planhigyn sy’n hoffi halen (mae’n haloffytig) a’i ganghennau sydd â siâp corn; cyfeirir ato hefyd fel corn carw’r môr, llyrlys, sampier y geifr, ffenigl y môr, moron pigog a passe-pierre. Yn wreiddiol fe’i casglwyd gan deuluoedd pysgotwyr y Canol Oesoedd oedd yn byw ger y glannau yng ngwledydd Yr Iseldiroedd, Gogledd Ffrainc, a Phrydain Fawr. Yn ddiweddar daeth yn boblogaidd ar draws y byd fel danteithfwyd, â galw mawr amdano mewn bwytai o safon o Efrog Newydd i Lundain, Paris, Brwsel ac Amsterdam. Mae tyfu’r planhigyn ar raddfa fasnachol hyd yma wedi’i gyfyngu i fentrau cyfyngedig yng ngwledydd  Mecsico, Israel, India a Ffrainc a gan ei fod yn gynnyrch gwerth uchel fel danteithfwyd tymhorol, mae  bwlch yng nghynhyrchiad  y llysieuyn arbenigol hwn o fewn y DU. Gellir ei fwyta yn ffres, wedi ei goginio neu’i biclo ac fe’i defnyddir yn aml fel addurniad mewn salad a seigiau pysgod neu fe’i cymysgir gyda llysiau eraill er mwyn ychwanegu blas halen arbennig. 

Er bod y galw am Salicornia fel llysieuyn môr arbennig, awgryma ymchwil presennol y gall hefyd gynnig buddiannau iechyd dynol gan y’i cydnabyddir am ei nodweddion ar gyfer treuliad a rhwystro gwynt. Ysgrifennodd Culpepper yn y 17eg ganrif bod corn carw’r môr yn ddefnyddiol i wella afiechydon yn gysylltiedig â “threuliad gwael ac ataliadau ” tra ar yr un pryd “yn ddymunol i’w flasu a’i stumogi”. Mae hefyd yn cynnwys nodweddion diwretig a phureiddiol; nid yw’n cynnwys dim colesterol, yn isel mewn calorïau a braster, tra hefyd yn llawn ïodin, ffosfforws, calsiwm, silica, manganîs a fitaminau A, C a D. Pan oedd yn cael ei biclo, byddai llongwyr yn ei ddefnyddio ar fordeithiau hir gan ei fod yn dda ar gyfer y clefri poeth.

Yn ychwanegol, gallai’r planhigyn dŵr hallt hwn gynnig datrysiad posib i broblem dylifion acwafeithrin halenog maethol a gall ei had olew fod yn addas ar gyfer  diwydiant neu ddeunydd fferyllol, gan ei fod yn cynnwys oddeutu  30% o olew  (yn benodol asid linoleϊg) ac oddeutu 35% o brotein (yn debyg i ffa soia a chnydau had olew eraill). Mae’r olew yn amlannirlawn ac yn debyg yn ei gynhwysiad o ran olew brasterog i olew blodyn yr haul. Mewn astudiaethau ym Mecsico, ymddengys bod y planhigyn â chynnyrch had cyffelyb i’r hyn a geir gan ffa soya a blodau’r haul, sy’n amlygu dichonolrwydd economaidd cynyddol Salicornia sp. a’i amrywiaeth fel adnodd naturiol.

Yn anad dim, bwriad cychwynnol y prosiect yw sefydlu dull cynhyrchu hyfyw ar gyfer amaethu Salicornia Cymreig yn Llŷn Aquaculture Cyf. sy’n gwmni acwafeithrin a leolir yn Fferm Afonwen, Pwllheli. Bydd y treialu hefyd yn ymchwilio i ddefnydd gwelyau Salicornia fel hidlydd ar gyfer y dŵr hallt, llawn maetholion a gynhyrchir fel sgil-gynnyrch y fferm bysgod, a thrwy hynny, gwneud y system acwafeithrin yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Yn cyd-redeg gyda’r treialon tyfu, ymgymerir â  nifer o arbrofion gwyddonol eraill gan Brifysgol Cymru, Bangor. Y gobaith yw y bydd yr arbrofion hyn yn ein galluogi i faintioli cynhwysedd Salicornia i waredu maetholion o ddŵr gwastraff halenog a thaflu peth goleuni ar rôl nitrogen yn y planhigyn.

Julie Webb,
Prifysgol Cymru, Bangor