Partneriaid
Cyngor Gwynedd
Cydlynydd y Prosiect: Gareth Wyn Williams
01286 679 628 / GarethWynWilliams2@gwynedd.gov.uk
Prifysgol Cymru, Bangor
Rôl staff MENTERRA yn Ysgol Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol, Prifysgol Cymru Bangor yw datblygu ac ymchwilio i gyfleoedd newydd o fudd i ffermwyr Gwynedd. Maent wedi eu lleoli yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, Abergwyngregyn.
Cadarnhawyd safle’r Ysgol ymysg y goreuon ym Mhrydain yn yr Ymarfer Asesiad Ymchwil diwethaf. Dyfarnwyd Gradd 5 i’r adran fel cydnabyddiaeth am gynhyrchu gwaith ymchwil o bwys rhyngwladol.
Dyma’r math o arbenigedd fydd o gymorth i brosiect MENTERRA ddatblygu mentrau newydd i ffermwyr Gwynedd mewn cyfnod pan fod angen i bob amaethwr ystyried gofynion y farchnad yn ofalus.
Bydd gofyn i unrhyw fenter fydd yn cael ei datblygu o dan faner y prosiect fod yn arloesol ac yn addas i dirwedd a hinsawdd Gwynedd. Yn ogystal â chynnal gwaith treialu yn Henfaes, fe fydd gwaith allweddol pwysig yn cael ei gynnal ar ffermydd y Sir. Bydd gwyddonwyr y Brifysgol, mewn partneriaeth â’r Swyddogion Mentrau Amaeth (Cymad) a’r ffermwyr lleol, yn profi perfformiad y mentrau newydd hyn o dan amgylchiadau masnachol go iawn.
Gwyddonydd y Prosiect: Dr Edward Dickin 01248 689106 / e.t.dickin@bangor.ac.uk
CYMAD
Cydweithiodd y Swyddogion Mentrau Amaeth yn agos gyda’r gymuned amaethyddol i recriwtio ffermwyr a llunio cytundebau gogyfer a’r treialu. Roeddynt hefyd yn gyfrifol am archebu’r hadau arbenig a sicrhau bod cyswllt da rhwng y treialwyr a’r partneriaid. Roedd y Swyddogion yn dilyn datblygiad y cnydau ac yn cofnodi’n ofalus y gwahaniaethau rhwng y lleoliadau a’r amodau oddimewn i’r Sir ar gyfer y dyfodol.
Swyddog Mentrau Amaeth: Hazel Jones
01766 543036 / hazel@cymad.org
BIC Innovation
Mae BIC Innovation wedi bod yn cefnogi a chynnig arbenigedd ym maes arloesedd ers llawer blwyddyn bellach. Mae’r tîm yn hynod brofiadol ym maes ymchwil marchnad fasnachol, creadigrwydd, datblygu cynnyrch newydd, trosglwyddo technoleg a rheoli eiddo deallusol. Mae’r cwmni yn cyflawni nifer helaeth o brosiectau o fewn y maes arloesi ac wedi bod yn weithredol gyda chwmnïau, sefydliadau cyhoeddus a’r sector academaidd drwy Brydain a thu hwnt.
Bydd cynllun MENTERRA yn cael budd o wybodaeth arbenigol BIC mewn masnachu a ffurfio mentrau newydd. O fewn y cynllun, bu BIC yn gyfrifol am gynnal gweithdai creadigol i asesu syniadau, ymchwilio pellach i gadarnhau dichonolrwydd cyn adnabod marchnadoedd a fyddai â diddordeb mewn cynnyrch newydd.
Er na chafwyd cyfle i fynd a chynnyrch i’r farchnad, mae’n debygol y digwydd hyn yn y dyfodol fel bydd grwpiau treialu yn addasu i fod yn grwpiau neu gwmnïau penodol.
http://www.bic-innovation.com
Cyfarwyddwr Marchnata: Huw Watkins
01248 671101 / huw.watkins@bic-innovation.com
|