Croeso i safle we MENTERRA, sydd wedi ei chynllunio i gyflwyno cefndir y prosiect ac i gofnodi erthyglau a gwybodaeth am y gwahanol dreialon, ynghyd a rhoi cysylltiadau defnyddiol. Mae’r Pecynnau Cynnyrch yn crynhoi canfyddiadau'r treialon ac yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr i’r rhai sydd am ddatblygu’r cnydau ymhellach.
Lansiwyd cynllun MENTERRA yn 2003 gyda phecyn cyllido o £2.6m drwy raglen Amcan Un, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Prifysgol Cymru Bangor a Chyngor Gwynedd. Roedd yn gynllun peilot tair blynedd uchelgeisiol ac arloesol, sydd bellach wedi ei ymestyn hyd Medi 2007, gyda’r nod o ddatblygu cnydau a phlanhigion newydd, ynghyd a rhai traddodiadol a chynhenid.
Mae MENTERRA wedi cael ei reoli a’i gydlynu gan Cyngor Gwynedd a’r nod oedd cysylltu gwaith ymchwil academaidd mewn cynnyrch a nwyddau gyda photensial cyfleoedd prosesu a marchnata. Mae’r prosiect wedi cydweithio gyda ffermwyr i ddatblygu’r mentrau newydd ac arloesol yma, er mwyn eu galluogi yn y dyfodol i gynhyrchu a marchnata’r nwyddau, gyda’r nod o osod sylfaen i ddatblygu cyfleusterau prosesu, fel y bo economi Gwynedd yn elwa o’r datblygiadau ar ffermydd oddimewn i’r sir.
Defnyddiwyd rhan o’r gronfa i sefydlu’r Ganolfan Arlosesi-Amaeth newydd yn Henfaes, Abergwyngregyn, ac mae’r prosiect wedi gweithredu mewn partneriaeth gyda 3 sefydliad arall oddimewn i’r sir:-
Yr Ysgol Gwyddorau Amaeth a Choedwigaeth (sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol) Prifysgol Cymru Bangor, oedd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil a datblygu gwyddonol
Cymad yn cysylltu gyda ffermwyr lleol
BIC Innovation yn gyfrifol am wneud arolwg o’r farchnad a masnacheiddio cynnyrch newydd.
Cliciwch ar y Partneriaid yn unigol am fanylion llawn o’u rôl oddimewn i’r prosiect.
Menterra, Eisteddfod Genedlaethol 2005
|