Fel Uwch Arweinydd Portffolio Datblygu ar Gyngor Gwynedd, mae’n bleser gennyf unwaith eto eich croesawu i rifyn arall o gylchlythyr MENTERRA.
Mae’r prosiect 3 mlynedd uchelgeisiol hwn yn prysur tynnu tua’i derfyn a braf erbyn hyn yw cael gweld ffrwyth llafur yr ymchwil arloesol yn datblygu. Mae cynnyrch blynyddoedd cyntaf amrywiol gnydau’r treialau, megis Had Llin, Ceirch a Haidd Noeth, Cnydau Olew Crambe a Camelina, ynghyd a Ffrwythau Meddal yn parhau i gael eu profi am wahanol rinweddau. Mae’n ddyddiau cynnar i’r treialon a gychwynwyd yn ystod y gwanwyn gyda Madarch Egsotic a Salicornia ond mae’n amlwg o’r erthyglau amdanynt yn y rhifyn hwn bod cryn ddiddordeb yn y cynnyrch.
“Diwedd y gan yw’r geiniog” a bellach, ar sail y wybodaeth syn deillio o’r ymchwil, mae cryn sylw yn cael ei roi i bwysigrwydd marchnata’r cynnyrch ac awryw o gysylltiadau yn cael eu meithrin. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi’r Pecynnau Gwybodaeth fydd yn cael eu paratoi tros yr wythnosau nesaf, er mwyn lledaenu’r wybodaeth a gasglwyd a rhoi cymorth i’r ffermwyr sydd am arall gyfeirio.
Heb ymddiheuro dim am ail adrodd bod diwydiant amaethyddol sy’n ffynnu yn hanfodol i gynnal economi a chymuned gref yn ein hardaloedd gwledig, mae llwyddiant y fenter hon, gyda chydweithrediad parod llawer o ffermwyr Gwynedd, yn profi bod yr ewyllys i fentro yn parhau yn gryf mewn diwydiant sy’n parhau i wynebu sawl sialens. Diolch am gyfrannu at y diwylliant o arloesedd yn ein Sir.
Y Cynghorydd Dafydd Iwan
Arweinydd Portffolio – Datblygu
Cyngor Gwynedd
CROESO A CHYFLWYNIAD
Mae diwydiant amaethyddol sy’n ffynnu yn hanfodol i gynnal economi a chymuned gref yn ein hardaloedd gwledig. Amaeth ydy un o brif sectorau cyflogaeth Gwynedd ond, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ni ellir llaesu dwylo. Mae dyddiau’r prisiau gwarantedig a gwarchod y diwydiant rhag cystadleuaeth o dramor wedi dod i ben. Cafodd MENTERRA ei lansio gyda chymorth £2.6 miliwn gan Amcan Un, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Prifysgol Cymru Bangor a Chyngor Gwynedd.
Mae effeithiau rhyddfrydoli’r farchnad yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gweld prisiau nwyddau yn gostwng yn sydyn. Bu’n rhaid i ffermwyr weithredu’n ddibetrus mewn ymateb. Gwelwyd rhai’n arall gyfeirio, eraill yn troi cefn ar ffermio. Er bod Gwynedd dal i ddibynnu ar gynnyrch traddodiadol, bydd yn parhau’n agored i niwed mewn marchnad rydd. Dyma pam fod Cyngor Gwynedd, a’r partneriaid allweddol eraill, yn hyrwyddo arloesi amaeth yn y Sir.
Rheolir a chydlynir MENTERRA gan y Cyngor; tra bo dau Swyddog Mentrau Amaeth o Cymad yn cyfathrebu gyda ffermwyr a busnesau lleol er mwyn eu hannog i gymryd rhan yn y fenter. Mae staff Ysgol Gwyddorau a Choedwigaeth Prifysgol Cymru Bangor yng Nghanolfan Arloesi ar safle Henfaes. Byddant yn cynnal y gwaith ymchwil gwyddonol tra bydd BIC Innovation, yr arbenigwr datblygu cynnyrch newydd, yn asesu’r farchnad ar gyfer cnydau arbennig, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o fasnacheiddio cynnyrch newydd dethol i farchnadoedd.
Bwriad y prosiect yw cydweithio gyda ffermwyr i ddatblygu nifer o fentrau newydd ac arloesol; gan gynnwys sefydlu’r seiliau ar gyfer datblygu cyfleusterau prosesu fel bod economi Gwynedd yn gallu manteisio ar unrhyw ddatblygiadau.
Mae Ceirch Noeth a Had Llin wedi cael eu treialu ar 16 o ffermydd ar hyd a lled Gwynedd. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried treialu ffrwythau meddal a madarch egsotig. Mae MENTERRA yn awyddus i glywed gan ffermwyr sydd â diddordeb mewn treialu; yn ogystal â ffermwyr a busnesau Gwynedd a all fod â syniadau am fentrau newydd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddogion Mentrau Amaeth, John Roberts neu Hazel Jones: (01766) 512300.
|